Supporting information for parents (Welsh)

Gwybodaeth Atodol I Rieni - Boloh: Llinell Gymorth Covid-19 teuluoedd Du, Asiaidd, a Lleiafrifoedd Ethnig

Ynglŷn â Llinell Gymorth Boloh

Mae Llinell Gymorth Boloh yn wasanaeth a lansiwyd gan Barnardo’s ar 1af Hydref gyda chyllid gan yr Ymddiriedolaeth Argyfyngau Cenedlaethol. Mae’r Llinell Gymorth yn ymateb i effeithiau’r pandemig ar gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig sydd wedi dioddef effeithiau anghymesur.

Mae staff y Llinell Gymorth naill ai o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig neu â phrofiad proffesiynol blaenorol o ddarparu gwasanaethau i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd o’r cymunedau hyn.

Sut gallwn ni helpu?

Ydych chi’n blentyn, person ifanc, rhiant neu ofalwr Du, Asiaidd neu o Leiafrif Ethnig, sydd wedi cael ei effeithio gan Covid-19? Os ydych chi, efallai y byddwch wedi cael profedigaeth, colled, wedi profi diweithdra, trafferthion ariannol, yn pryderu am waith ysgol neu ddyfodol eich plentyn, yn poeni am ffrind neu’r teulu, yn dioddef straen neu orbryder am y cyfnod clo. Yn ogystal â’r rhain, efallai bod materion eraill yn eich pryderu. Gallwch siarad â ni am eich pryderon, problemau ac unrhyw straen yn ystod y cyfnod hwn, a gallwn ni roi cefnogaeth emosiynol, cyngor ymarferol a’ch cyfeirio at sefydliadau eraill sy’n gallu cynnig rhagor o help.

Mae’r gefnogaeth rydyn ni’n ei darparu yma i chi a’r plentyn/plant sydd dan eich gofal. Gallwch roi galwad i ni neu sgwrsio trwy’r offeryn gwe-sgwrsio sydd ar gael ar ein gwefan. Does dim rhaid i chi rannu eich manylion gyda ni, ond os byddwch chi eisiau cael eich cyfeirio at ein tîm o therapyddion neu wasanaeth arall, bydd angen i ni gael eich manylion a’u rhannu gyda’ch caniatâd. Byddwch chi hefyd yn gallu canfod cyngor ar ein gwefan am nifer o bethau e.e. lles emosiynol, cefnogi teuluoedd, galar a cholled.

Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n cysylltu â’r llinell gymorth?

Byddwch chi’n derbyn ymateb gan Gynghorydd Llinell Gymorth cyfeillgar a fydd yn siarad â chi am y profiadau rydych chi a/neu eich plentyn/plant yn eu cael. Bydd y Cynghorydd Llinell Gymorth yn gwrando arnoch chi ac yn rhoi cymorth wrth i chi benderfynu pa fath o gefnogaeth a chyngor sydd ei angen arnoch chi. Os byddwch chi’n cytuno, gallai’r Cynghorydd Llinell Gymorth gael nifer o alwadau gyda chi a byddan nhw’n gallu trefnu rhoi galwad yn ôl i chi ar amser sy’n gyfleus i chi. 

Bydd y Cynghorydd Llinell Gymorth yn gallu trefnu i chi a/neu eich plentyn/plant siarad ag un o’n therapyddion i gael chwech o sesiynau cwnsela a bydd modd cynnig rhagor o sesiynau os bydd angen. Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal dros y ffôn naill ai unwaith neu ddwywaith yr wythnos, gan ddibynnu ar anghenion ac amgylchiadau eich teulu. Bydd y sesiwn gyntaf a’r chweched yn 45 munud o hyd er mwyn rhoi amser i wneud asesiad cychwynnol o dair her allweddol sy’n wynebu’r teulu neu’r unigolyn, ac i drafod a nodi’r cynnydd a wnaed yn ystod y gwasanaeth yn y sesiwn olaf. Bydd sesiynau dau i bump yn 30 munud o hyd, ac yn ystod y rhain, rhoddir cymorth therapiwtig er mwyn delio â’r heriau allweddol a nodwyd yn y sesiwn gyntaf.

Oes modd cael cefnogaeth mewn ieithoedd gwahanol?

Mae ein Cynghorwyr Llinell Gymorth yn gallu darparu gwasanaeth yn Saesneg, Urdu, Hindi, Mirpuri a Punjabi. Ym mis Rhagfyr 2020, bydd rhagor o ieithoedd ar gael, gan gynnwys Amharic a Tigrinya a bydd modd cael cyfieithwyr ar gyfer ieithoedd eraill. Mae’r sesiynau therapiwtig ar gael yn yr ieithoedd canlynol: Saesneg, Bengali, Hindi, Ffrangeg, Punjabi a Groeg.

Astudiaeth Achos

Mae’r astudiaethau achos hyn yn rhoi enghreifftiau o sut gallai Llinell Gymorth Boloh roi cymorth.

Mae Martha yn fam i ddau o blant yn eu harddegau sy’n mynychu ysgol uwchradd leol. Dechreuodd Martha fod yn bryderus am ei mab 15 oed wedi iddo ddechrau gwrthod mynd i’r ysgol oherwydd ei fod yn ofni y byddai’n dal y coronafeirws. Trafododd Martha hyn gydag athro ei mab ac fe gafodd hi rif Llinell Gymorth Boloh er mwyn cael cefnogaeth.

Cysylltodd Martha â’r Llinell Gymorth a siaradodd â Naz, sy’n Gynghorydd Llinell Gymorth. Rhannodd Martha’r canlynol gyda Naz: “Mae fy mab wedi clywed bod pobl dduon yn fwy tebygol o farw o Covid ac mae’n dioddef pyliau o orbryder nawr. Mae’n gofyn i ni ydyn ni’n mynd i farw a dydy e ddim eisiau gadael y tŷ i fynd i’r ysgol. Rydyn ni’n poeni’n ofnadwy amdano a ddim yn gwybod beth i’w wneud.” Dros nifer o alwadau, gweithiodd Naz gyda Martha i drafod ei hofnau a’i phryderon am ei mab a chytunodd y byddai ei mab yn cael sesiynau cwnsela gyda’r therapydd i siarad am ei ofidiau a’i bryderon. Dechreuodd Martha a’i mab gael sesiynau cwnsela ar wahân gyda therapydd. Mae mab Martha yn gweithio tuag at reoli ei bryderon ynglŷn â Covid-19.

Astudiaeth Achos

Cysylltodd Kalhon â’r Llinell Gymorth trwy we-sgwrsio ar ôl gweld post ar ei dudalen Facebook. Dywedodd ei fod wedi cael ei roi ar y cynllun saib swyddi i ddechrau ac wedi ei ddiswyddo wedyn. Mae’n pryderu na fydd yn gallu talu rhent a phrynu bwyd i’w deulu. Yn ystod y we-sgwrs gyda’r Cynghorydd Llinell Gymorth, gofynnodd i’r Cynghorydd Llinell Gymorth ei ffonio i siarad am ei sefyllfa. Cysylltodd Sara, y Cynghorydd Llinell Gymorth â Kalhon ac fe drafodon nhw ei sefyllfa. Nododd Sara’r holl wybodaeth a chytunodd hi â Kalhon y byddai hi’n gwneud ychydig o ymholiadau gyda gwasanaethau yn Barnardo’s ac mewn sefydliadau eraill a ddylai fod yn gallu helpu. Siaradodd Sara gyda nifer o wasanaethau lleol yn yr ardal ble mae Kalhon yn byw ac fe weithiodd i ganfod y gwasanaethau allweddol mwyaf addas i roi cymorth i Kalhon a’i deulu. Wedyn, rhannodd Sara’r wybodaeth hon gyda Kalhon ac fe gysylltodd yntau ag elusen leol a ddarparodd gymorth iddo fe a’i deulu.

Ein Gweledigaeth yw gweld plant a phobl ifanc Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn datblygu eu cryfder mewnol i ymateb i heriau’r pandemig a thu hwnt.  Byddem yn hapus iawn i gael gweithio gyda chi i gyflawni’r weledigaeth hon, felly siaradwch â ni os oes angen cefnogaeth arnoch:

Rhadffôn: 0800 151 2605

E-bost: Boloh.helpline@barnardos.org.uk

Gwefan: https://helpline.barnardos.org.uk/