Boloh - Welsh

Croeso i Boloh, llinell gymorth a gwe-sgwrs COVID-19 Barnardo’s ar gyfer y rhai sydd dros 11 oed

Ffoniwch ni ar 0800 1512605 neu sgwrsiwch â ni ar-lein

Ydych chi’n blentyn, person ifanc, rhiant neu ofalwr Du, Asiaidd neu o Leiafrifoedd Ethnig, sydd wedi cael ei effeithio gan Covid-19? Gallwch siarad â ni am eich pryderon, problemau ac unrhyw straen yn ystod y cyfnod hwn, a gallwn ni roi cefnogaeth emosiynol, cyngor ymarferol a chyfeirio at sefydliadau eraill sy’n gallu cynnig rhagor o help.

Os ydych chi’n weithiwr proffesiynol, gallwch chithau hefyd gysylltu â ni i drafod sut i gefnogi plentyn neu berson ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw.

Siaradwch â ni

Rydym ar gael i siarad ddydd Llun-Gwener, o 1pm-8pm.

Mewn sawl iaith, mae Boloh yn golygu siarad.

Os ydy’r pandemig wedi effeithio arnoch chi a bod angen cyngor neu rywun i siarad â nhw, gallwch roi galwad i ni yn gyfrinachol ar 0800 1512605 neu, os yw’n well gennych gael sgwrs ar-lein gyda chynghorydd cefnogi arbenigol, gallwch wneud hynny trwy we-sgwrs fyw trwy glicio ar yr eicon  ar y dde ar y gwaelod. Mae ein staff sydd wedi’u hyfforddi yn aros am eich galwadau ffôn neu we-sgyrsiau ddydd Llun-Gwener o 1pm – 8pm.

Rydym yma i’ch helpu chi os ydych chi wedi cael profedigaeth neu afiechyd, yn teimlo’n isel neu’n bryderus am y cyfnod clo, yn teimlo eich bod ar eich pen eich hun, y poeni am ffrindiau neu’r teulu, yn bryderus am eich arian neu ddiweithdra, wedi profi bwlio neu hiliaeth, trafferthion gyda digartrefedd neu gael eich troi allan, yn poeni am ddychwelyd i’r ysgol/brifysgol neu unrhyw fater arall. Mae ein tîm o seicotherapyddion arbenigol yn gallu darparu cefnogaeth gyson i chi yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Ar y ffôn, mae cynghorwyr ein llinell gymorth yn gallu siarad â chi yn Saesneg, Urdu, Punjabi neu Hindi.

Mae ein seicotherapyddion yn gallu darparu cymorth therapiwtig yn Saesneg, Hindi, Bengali, Ffrangeg a Punjabi.